O flin gaethiwed trwm,
Le llwm y pridd a'r llaid,
Y tynodd Duw fi ar ei ol,
O blith gelynol blaid.
Er iddynt ddal yn dỳn,
Ce's gychwyn tua gwlad
Sydd yn llifeirio o laeth a mel,
Bro dawel ty fy Nhad.
Ce's fyned trwy'r môr coch,
Er maint oedd
broch a brad
Fy hen elynion, Pharaoh a'i lu,
'N sychedu am fy ngwaed.
Ce's ganu ar làn y dòn
Yn llon, wrth wel'd y llu,
Oedd yn fy erlid i mor ffrom,
Yn dom yn 'r eigion du.
Gan iddo wneyd mor dda,
Hydera f'enaid gwan
Y dwg fi adref, doed a ddêl,
Yn ddiogel yn y man.
Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) 1795-1855Y Caniadydd 1841 [Mesur: MB 6686] gwelir: Rhan II - Caf fanna o'r nef i lawr |
O grievous heavy captivity,
The bare place of the soil and the mud,
Where God drew me after him,
From among the enemy party.
Although they hold tightly,
I got a start towards a land
That is flowing with milk and honey,
The quiet vale of my Father's house.
I got to go through the red sea,
Despite how vast was
the rage and treachery
Of my old enemy, Pharaoh and his host,
Thirsting for my blood.
I got to sing on the shore of the wave
Cheerfully, on seeing the host,
Who were chasing me into a fuming sea,
As a pile in the black ocean.
Since he did so well,
Be bold, my weak soul,
He will bring me home, come what may,
Safely soon.
tr. 2018 Richard B Gillion
|
|